Cymuned Trawsgoed

Cymuned wledig, wasgaredig yng Ngogledd Ceredigion yw Trawsgoed, rai milltiroedd i’r dwyrain-dde-ddwyrain o Aberystwyth, ar lan ogleddol Afon Ystwyth. Mae’n ffinio â chymunedau Llanfarian, Llanilar, Ystrad Meurig, Ysbyty Ystwyth, Pontarfynach ...

Cynghrair a Chymuned…

• Mae Cynghrair Cymunedau Cymraeg yn falch iawn i ddatgan mai eu haelod nesaf bydd eu hanner canfed aelod. • Gall 50fed aelod y Gynghrair cael eu croesawu yn eu ...

Gwynedd a Mon yn methu yn ol y Gynghrair

Yng nghyfarfod blynyddol Cynghrair Cymunedau Cymraeg [ http://cymunedau.org ] yn Llangefni ar Ddydd Gŵyl Ddewi eleni, penderfynodd Cynghrair Cymunedau Cymraeg ysgrifennu at Gyngor Sir Gwynedd a Chyngor Sir Môn i ...

Newyddion Diweddaraf

Diweddariad wedi’r Cyfarfod Blynyddol

Penderfynwyd gan Gynghrair Cymunedau Cymraeg ysgrifennu at Gyngor Sir Gwynedd a Chyngor Sir Môn i ddatgan ein pryder ynghylch Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Sail ein pryder yw, y bydd y Cynllun yn golygu gorddatblygu, sef darparu y tu hwnt i’r gofyn lleol, a byddai hynny’n niweidio sefyllfa’r Gymraeg yng nghymunedau’r […]

Continue Reading

Bargyfreithiwr lleol Gwion Lewis yn annerch Cynghrair Cymunedau Cymraeg yn Llangefni

Ceir cyfle i wrando ar un o enwau fwyaf adnabyddus diwylliant Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, wrth i Gynghrair Cymunedau Cymraeg groesawu’r bargyfreithiwr lleol Gwion Lewis i Oriel Môn i’w gyfarfod blynyddol yn Llangefni. Bydd cynrychiolwyr gwahanol gymunedau a mudiadau yn trafod sut y gallan nhw efelychu cyrff fel Cyngor Gwynedd sy’n gwneud eu […]

Continue Reading

1/3/14 Cyfarfod Blynyddol Cynghrair Cymunedau Cymraeg yng nghwmni Gwion Lewis

Bydd Gwion Lewis yn traddodi darlith am sut mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn galluogi rhagor o gyrff megis cynghorau sir a thref gweinyddu’n fewnol yn uniaith Gymraeg, ac fe gawn ni hefyd  drafodaeth ynghylch sut y gall aelodau’r Gynghrair ac eraill fanteisio ar y cyfle mae’r ddeddfwriaeth newydd yn ei gynnig. Testun y […]

Continue Reading

Y Gymraeg yn Ysgubor y Coed

Mae Ysgubor y Coed yn gymuned fach yng ngogledd Ceredigion sy’n ffinio â Phowys a Gwynedd.  Mae’n cynnwys tri phentref: Ffwrnais, Eglwysfach a Glandyfi.  Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 310 o bobl yn byw yno yn 2011.  O’r rhain, ganwyd 45.8% yng Nghymru (a 44.8% yn Lloegr).   Serch hynny, dyma un o’r cymunedau prin yng […]

Continue Reading

Sefydlu Menter Iaith ym Mangor – Bangoriaith

Mae Dinas Bangor yn gymuned o gymunedau ac yn sicr, mae natur y boblogaeth yn amrywio’n arw. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn dangos dirywiad yn y niferoedd sy’n gallu siarad  Cymraeg ym Mangor ymhob ward, a dirywiad sylweddol iawn yn wardiau Menai (Bangor Uchaf), Hirael a Garth. Mae’r ffigyrau canlynol yn dangos canrannau’r boblogaeth sy’n […]

Continue Reading

Llanwenog yn ymuno a’r gynghrair

Dywedodd Cen Llwyd o gymuned Llanwenog (grŵp sydd wedi sefydlu er mwyn cynnal y Gymraeg yn y pentref ac ymrymuso’r gymuned): ‘Roedd tri dewis: 1. eistedd lawr a gwneud dim 2. llefaru’n groyw a beirniadu a beio pawb a phopeth 3. ymuno á’r Gynghrair a chael cyfle i wneud rhywbeth er mwyn ceisio gwella’r sefyllfa. […]

Continue Reading

Saith Seren, Wrecsam yn ymuno

Dywedodd Marc Jones o’r Saith Seren, Wrecsam (menter cydweithredol sydd wedi agor tafarn Saith Seren sy’n ganolfan Gymraeg ar gyfer Wrecsam): ‘Mae angen brwydro dros yr iaith a normaleiddio’r Gymraeg fel iaith gymunedol ymhob rhan o Gymru – yn wledig a dinesig. Dim ond 10 milltir o’r ffin ydan ni yn Saith Seren ond mae’n […]

Continue Reading

Felin 70%+ yn ymuno a’r gynghrair

Dywedodd Aled Job o Felin 70%+ (grŵp cymunedol sy’n annog pobl di-Gymraeg i ddysgu’r iaith ac yn cynnig cefnogaeth iddynt wrth wneud hynny): ‘Un o’r rhesymau y mae Felin 70%+ wedi ymuno a Chynghrair Cymunedau Cymraeg yw ein bod yn teimlo ei bod hi’n bwysig iawn i ni fel cymuned i greu cysylltiadau hefo cymunedau […]

Continue Reading

Hwb i gymunedau Cymraeg – penodi cydlynydd cynghrair newydd

Mae grwp newydd sy’n lobïo dros gymunedau Cymraeg wedi derbyn hwb ariannol gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, cyhoeddwyd heddiw. Mae Menna Machreth, yn wreiddiol o Landdarog, Sir Gaerfyrddin, sydd yn byw yng Nghaernarfon, wedi ei phenodi i swydd, a gyllidir gan y Gymdeithas, er mwyn cydlynu a datblygu’r gynghrair. Mae nifer o gymunedau eisoes wedi […]

Continue Reading